Ynglŷn â The Daily Mile

Nod The Daily Mile yw gwella iechyd a lles corfforol, emosiynol a chymdeithasol ein plant, waeth beth yw eu hoedran na’u hamgylchiadau personol.

Mwy i archwilio
Nod The Daily Mile yw gwella iechyd a lles corfforol, emosiynol a chymdeithasol ein plant beth bynnag eu hoed a’u hamgylchiadau personol. Mae’n gysyniad hollol syml ond effeithio y gall unrhyw ysgol gynradd ei weithredu.  Gall ei ddylanwad fod yn drawsnewidiol – gan wella ffitrwydd plant a hefyd eu lefelau canolbwyntio, hwyliau, ymddygiad a lles cyffredinol.    Rydym eisiau i bob plentyn gael y cyfle i wneud The Daily Mile yn yr ysgol gynradd, ac rydym bellach yn gweithio i sefydlu cymuned ryngwladol The Daily Mile gydag ysgolion, llywodraethau, cynghorau lleol, cyrff chwaraeon a chefnogwyr eraill o gwmpas y byd.

Mae The Daily Mile yn Gweithio!

Mae The Daily Mile yn llwyddiannus am ei fod yn syml ac am ddim:

1 Mae’n cymryd ychydig dros 15 munud, â’r plant yn rhedeg milltir ar gyfartaledd bob dydd.

2 Mae plant yn rhedeg yn yr awyr agored – ac mae’r tywydd yn fantais nid yn rhwystr.

3 Does dim angen paratoi, tacluso nac adnoddau.

4 Mae plant yn rhedeg yn eu gwisg ysgol felly does dim angen dillad arbennig nac amser newid.

5 Mae’n gymdeithasol, nid yw’n gystadleuol ac mae’n hwyl.

6 Mae’n hollol gynhwysol; mae pob plentyn, beth bynnag ei sefyllfa, oed a gallu, yn medru llwyddo gyda The Daily Mile.