Iechyd & Lles
Nid yw The Daily Mile yn Addysg Gorfforol, trawsgwlad na chwaraeon. Mae’n iechyd a lles corfforol, emosiynol a meddyliol.
Mwy i archwilioMae The Daily Mile yn cynnig manteision niferus i blant os ydynt yn rhedeg, loncian new gerdded.
O fewn 4 wythnos, bydd plant sy’n gwneud The Daily Mile yn ffit.
Mae’r 15 munud o doriad wrth wersi yn bywiogi plant ac yn eu gadael (a’r athrawon) yn medru canolbwyntio ac yn barod i ddysgu.
Mae’r amser a dreulir y tu allan, ym mhob tywydd, yn helpu plant i ymgysylltu â’r awyr agored ac i fod yn fwy ymwybodol o’u hamgylchedd.
Nid yw The Daily Mile yn gystadleuol, mae’n hollol gynhwysol, ac mae’r plant yn cael hwyl!
Mae The Daily Mile yn achlysur cymdeithasol, ac mae’n gwella perthnasau, gan roi cyfle i blant drafod gyda’u cyfoedion a’u hathrawon mewn ffordd wahanol i’r hyn sy’n digwydd yn y dosbarth.
Mae The Daily Mile yn annog gwaith tîm a sgiliau arwain, wrth i blant helpu ac annog eu cyfoedion.
Mae’r plant yn mynd â’r manteision adref gyda nhw gan gysgu a bwyta’n well a gan annog teuluoedd i fod yn actif hefyd.
Mae The Daily Mile yn gwella hunangred a hyder, ac yn gwella dealltwriaeth y plant o ymarfer corff am byth.
Mae The Daily Mile yn allweddol i leihau anactifedd a gordewdra. Mae plant yn mynd yn fwy tew yn ifancach, ac mae’n rhaid rhoi stop ar hyn ar unwaith. Mae astudiaeth wyddonol gynnar yn dangos bod lefelau gordewdra Ysgol St Ninian tua 45% yn llai na’r cyfartaledd cenedlaethol.
Mwy i archwilio...
Mae’r Filltir Ddyddiol yn fenter wych, mae’n galluogi i blant ddewis bod yn weithgar yn gorfforol ym mha bynnag ffordd y maen nhw’n ei ddymuno, gan gael gwared ar ofnau ‘cymryd rhan’ neu ddiffyg cymhelliant y gall llawer ohonom ei deimlo, ac felly’n gwella iechyd plant beth bynnag fo’u hoed, rhywedd neu rwystrau personol
Lauren Williams, Llysgennad Ifanc Platinwm Powys