Dechrau arni

Rydyn ni’n credu y bydd ysgolion ledled y wlad yn manteisio o weithredu The Daily Mile – ac mae’r cyfan yn syml iawn!

Mwy i archwilio

Rydyn ni’n credu y bydd ysgolion ledled y wlad yn manteisio o weithredu The Daily Mile.

Mae ysgolion sydd eisoes yn cymryd rhan yn dweud eu bod yn gweld gwerth i The Daily Mile. Dywed athrawon fod plant yn manteisio o fod yn yr awyr agored yn rhedeg gyda’u ffrindiau. Mae’n cefnogi dysgu yn y dosbarth ac mae’n cynyddu hyder, lefelau canolbwyntio ac yn gwella ymddygiad.
Gallwch lawr lwytho’r holl adnoddau o’r dudalen adnoddau yma.

Er mwyn ei gwneud hi’n hawdd i chi weithredu The Daily Mile, rydym wedi rhoi’r cyfan yr ydych ei angen i ddechrau arni gyda’i gilydd; llyfryn sy’n cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol, templed llythyr i rieni/gofalwyr ac enghraifft o asesiad risg.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â dechrau The Daily Mile yn eich ysgol, gallwch weld ein Cwestiynau Cyffredin neu gallwch gysylltu yn uniongyrchol gyda [email protected].

Gan ddymuno’r gorau i chi ar y daith!