Ynglŷn â The Daily Mile
Nod The Daily Mile yw gwella iechyd a lles corfforol, emosiynol a chymdeithasol ein plant, waeth beth yw eu hoedran na’u hamgylchiadau personol.
Mwy i archwilioNod The Daily Mile yw gwella iechyd a lles corfforol, emosiynol a chymdeithasol ein plant beth bynnag eu hoed a’u hamgylchiadau personol. Mae’n gysyniad hollol syml ond effeithio y gall unrhyw ysgol gynradd ei weithredu. Gall ei ddylanwad fod yn drawsnewidiol – gan wella ffitrwydd plant a hefyd eu lefelau canolbwyntio, hwyliau, ymddygiad a lles cyffredinol. Rydym eisiau i bob plentyn gael y cyfle i wneud The Daily Mile yn yr ysgol gynradd, ac rydym bellach yn gweithio i sefydlu cymuned ryngwladol The Daily Mile gydag ysgolion, llywodraethau, cynghorau lleol, cyrff chwaraeon a chefnogwyr eraill o gwmpas y byd.
Mae The Daily Mile yn Gweithio! Mae The Daily Mile yn llwyddiannus am ei fod yn syml ac am ddim: Mae’n cymryd ychydig dros 15 munud, â’r plant yn rhedeg milltir ar gyfartaledd bob dydd. Mae plant yn rhedeg yn yr awyr agored – ac mae’r tywydd yn fantais nid yn rhwystr. Does dim angen paratoi, tacluso nac adnoddau. Mae plant yn rhedeg yn eu gwisg ysgol felly does dim angen dillad arbennig nac amser newid. Mae’n gymdeithasol, nid yw’n gystadleuol ac mae’n hwyl. Mae’n hollol gynhwysol; mae pob plentyn, beth bynnag ei sefyllfa, oed a gallu, yn medru llwyddo gyda The Daily Mile.
|