Partneriaid a Chefnogwyr

Yma cewch restr o’n Partneriaid a’n Cefnogwyr sy’n rhan o gynllun The Daily Mile.

Mwy i archwilio

Cefnogwyr corfforaethol

INEOS_Group_strap_RGB       GRFF_Logo_Colour

Cefnogir ymgyrch The Daily Mile gan INEOS, sy’n credu’n gryf ei bod yn bwysig cael plant yn weithgar a iach o oedran ifanc.  Mae’n cefnogi’r ymgyrch hon hefyd drwy gynnal menter digwyddiad rhedeg ei hun, GO Run For Fun, sy’n darparu rasys hwyl 2km am ddim i blant ar draws y DU, Ewrop a thu hwnt.

The MTM Agency sy’n rheoli gwefannau The Daily Mile ac yn cynorthwyo’r Sefydliad gyda brandio a dylunio.


Partneriaid Gweithredu

Llywodraeth Cymru yw Llywodraeth ddatganoledig Cymru. Mae’n gweithio i helpu i wella bywydau pobl Cymru a gwneud y wlad yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo.

 

 

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r asiantaeth iechyd y cyhoedd cenedlaethol yng Nghymru ac mae’n bodoli i amddiffyn a gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau iechyd ar gyfer pobl yng Nghymru.