Gwerthoedd Craidd
Darganfyddwch 10 top tip Elaine i sicrhau llwyddiant The Daily Mile!
Mwy i archwilio10 egwyddor greiddiol ar gyfer ysgolion
Mae The Daily Mile yn hawdd eu weithredu ac yn hwyl. Yn fy mhrofiad i mae hyd yn oed y plant sy’n amharod i gymryd rhan mewn gwersi Addysg Gorfforol yn mwynhau cymryd rhan yn The Daily Mile. Dylai plant ag anawsterau mudoloedd gael eu cefnogi yn llawn i gymryd rhan hyfyd. Dyma fy 10 pwynt allweddol i ddechrau eich The Daily Mile. Os lynwch chi gyda’r egwyddorion yma, mi fyddwch yn llwyddiannus!
HWYL
Mae gan blant y rhyddid i redeg yn yr awyr iach gyda’u ffrindiau. Mi ddylent gael gwybod nad cystadleuaeth ydyw – bydd nifer yn cerdded a rhedeg yn enwedig ar y cychwyn.
100%
Mae’n hollol gynhwysol – mae’r plant i gyd allan gyda’i gilydd ac mae plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn manteisio’n fawr.
TYWYDD
Edrychwch ar y tywydd fel mantais nid fel rhwystr – mae plant yn ymateb i’r tymhorau. Gwisgwch siaced os yn oer a llaith; tynnwch eich siwmper os yw’n gynnes.
TRAC
Trac neu lwybr â lleiafrif o 5-10 lap sy’n gweithio orau. Maen iawn cael mwy o lapiau yn ddibynnol ar eich lleoliad.
CYFLYM
Mae’n digwydd o fewn 15 munud yn cynnwys gadael y dosbarth a chyrraedd yn ôl. Ceisiwch fynd allan bob dydd – byddyn haws i’r plant a byddant yn cael y manteision i gyd.
RISG
Genwch asesiad risg o’r llwybr neu faes chwarae – mae yna asesiad risg enghreifftiol yma.
EWCH AMDANI
Does dim angen cynhesu fyny – allan ac i ffwrdd â chi.
DILLAD
Does dim angen dillad arbennig. Mae’r plant yn mynd allan yn eu dillad ysgol.
PERCHNOGI
Sicrhewch fod y plant yn berchen ar eu The Daily Mile. Maent yn medru dewis rhedeg, loncian, cerdded – neu gymysgu’r tri – ond mi ddylent gael eu hannog i redeg ychydig.
SYML
Gwrthodwch y demtasiwn o wneud pethau yn rhy gymhleth, y symlrwydd sy’n sicrhau llwyddiant a chynaladwyedd.