Telerau ac Amodau
Merchant Technology Marketing sy’n rheoli’r wefan hon ar ran The Daily Mile Foundation. Drwy gyrchu’r wefan, ystyrir eich bod wedi derbyn ein telerau ac amodau. Os nad yw’r telerau ac amodau yn dderbyniol, disgwylir i chi y wefan yn syth.
Mwy i archwilioEin telerau a’n hamodau
Darllenwch y telerau a’r amodau hyn yn ofalus, os gwelwch yn dda, gan eu bod yn gymwys i’ch gallu i droi at ein gwefan a’i defnyddio, a darparu gwybodaeth a gwasanaethau gennym ni i chi drwy ein gwefan. Rydych yn gyfrifol am ddod â’r telerau hyn i sylw unrhyw un a all droi am wasanaethau neu wybodaeth at ein gwefan o ganlyniad i chi.
- Os nad ydych yn cytuno â’r telerau a’r amodau hyn, nid oes genych hawl i ddefnyddio’r wefan hon.
- Gallwch argraffu neu arbed y telerau a’r amodau hyn i gyfeirio atynt yn y dyfodol drwy glicio ar Print.
- Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan neu’n anfon negesau e-bost atom, byddwch yn cysylltu’n electronig ac felly byddwn yn cyfathrebu â chi drwy e-bost neu drwy bostio hysbysiadau ar y wefan hon, oni fyddwch yn rhoi cyfarwyddyd inni i’r gwrthwyneb.
Hysbysiad Cyfreithiol
- Mae holl gynnwys wefan hon (megis testun, graffeg, logos, eiconau botwm, delweddau, clipiau awdio, lawrlwytho digidol, crynoadau data a meddalwedd), oni nodir yn wahanol yn benodol, wedi’i ddiogelu gan hawlfraint neu hawliau perchnogaeth tebyg. Ni all gael ei atgynhyrchu ac eithrio drwy lawrlwytho a’i weld ar un cyfrifiadur a/neu argraffu un copi caled, at ddibenion preifat. Nid yw i gael ei ailgynhyrchu, ei drosglwyddo na’i ddarparu fel arall ar rwydwaith na’i ddefnyddio i greu gweithiau deilliadol heb ein caniatâd ysgrifenedig ni. Caiff pob hawl ei ddiogelu.
- Ein marciau masnachu ni yw’r marciau masnachu, y logos a’r marciau gwasanaeth a welir ar ein gwefan, onid nodir yn wahanol, neu maent wedi eu trwyddedu i ni. Ni roir hawliau i unrhyw un ohonynt heb ein caniatâd ysgrifenedig ni ymlaen llaw.
- Gwneir yr hysbysiad hwn ar ran sefydliad The Daily Mile Foundation (elusen gofrestredig rhif 1166911, Hawkslease, Chapel Lane, Lyndhurst, Hampshire, SO43 7FG).
Diogelu Data a Phreifatrwydd
- Bydd unrhyw wybodaeth a rowch i ni yn cael ei chadw a’i defnyddio yn unol â’r Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd hwn ac yn unol â’r gyfraith yn ymwneud â dal a phrosesu data.
- Rydych yn cytuno y gall y wybodaeth gyswllt a rowch inni gael ei chadw a’i defnyddio gan sefydliad The Daily Mile Foundation (a elwir yma wedi hyn “Sefydliad”) a’i bartneriaid cysylltiol mewn cysylltiad â rhannu gwybodaeth am ymgyrch The Daily Mile.
- Bydd y sefydliad yn cymryd yw holl gamau angenrheidiol i sicrhau na fydd gwybodaeth bersonol, neu wybodaeth farchnata’n ymwneud â manylion a ddarperir gennych chi ac sy’n dod i’w meddiant neu eu rheolaeth, yn cael:
- ei defnyddio neu ei hailgynhyrchu’n gyfan neu’n rhannol ar unrhyw ffurf ac eithrio at y dibenion a amlinellir yn y telerau a’r amodau hyn.
- ei datgelu i unrhyw berson nad yw wedi’i awdurdodi gennych chi i’w chael; neu
- ei newid, ei dileu, ei hymestyn neu ymyrryd â hi mewn rhyw ffordd arall (ac eithrio lle darperir yn benodol gan y telerau a’r amodau hyn).