Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion i fanteisio ar gynllun The Daily Mile
- Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans: “Rydyn ni eisiau sicrhau bod gan blant ym mhob rhan o Gymru iechyd a llesiant corfforol, emosiynol, a chymdeithasol da. Dyna pam rydyn ni’n annog ysgolion cynradd i gymryd rhan mewn cynlluniau arloesol, fel The Daily Mile, i helpu plant i wneud mwy o ymarfer corff. Mae’r fenter yn adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru, fel Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru.”
- Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: “Mae creu cyfleoedd sy’n caniatáu i bobl ifanc gael hwyl wrth symud o gwmpas yn hynod bwysig er mwyn sicrhau eu bod yn cael 60 munud y dydd o ymarfer corff, fel sy’n cael ei argymell. Bydd cymryd rhan yng nghynllun The Daily Mile yn helpu ysgolion cynradd i weithredu’r cwricwlwm newydd, sy’n rhoi pwyslais ar sicrhau bod ymarfer corff yn rhan arferol o bob diwrnod ysgol.”
- Dywedodd sylfaenydd cynllun The Daily Mile, Elaine Wyllie, “Mae’n bleser gen i gefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi fynd ati i annog holl ysgolion cynradd Cymru i fanteisio ar gynllun The Daily Mile. Ein cyfrifoldeb ni, fel oedolion, yw cyflwyno’r newidiadau sy’n mynd i wella nid yn unig ffitrwydd corfforol ein plant, ond hefyd eu hiechyd a’u llesiant cyffredinol yn y blynyddoedd i ddod.”
Mae ysgolion cynradd ar hyd a lled y wlad wedi cael eu hannog i gymryd rhan yng nghynllun The Daily Mile – rhaglen syml sy’n sicrhau bod plant yn cerdded, yn loncian, neu’n rhedeg am 15 munud bob dydd. Mae The Daily Mile yn hawdd ei rhoi ar waith; mae’n hwyl i bawb; ac yn nid yw’n costio dim i ysgolion.
Mae Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, wedi ysgrifennu at benaethiaid ysgolion cynradd i’w hannog i fanteisio ar gynllun The Daily Mile. Wrth siarad am eu hymrwymiad i wella lefelau gweithgarwch corfforol plant oedran ysgol gynradd a phobl ifanc yng Nghymru, dywedodd Rebecca Evans: “Rydyn ni eisiau sicrhau bod plant ym mhob rhan o Gymru yn iach am oes. Mae rhaglen The Daily Mile yn ffordd syml ac arloesol o wella llesiant corfforol, emosiynol, a chymdeithasol ein plant.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: “Mae creu cyfleoedd sy’n caniatáu i bobl ifanc gael hwyl wrth symud o gwmpas yn hynod bwysig er mwyn sicrhau eu bod yn cael 60 munud y dydd o ymarfer corff, fel sy’n cael ei argymell.”
Ychwanegodd: “Bydd cymryd rhan yng nghynllun The Daily Mile yn helpu ysgolion cynradd i weithredu’r cwricwlwm newydd, sy’n rhoi pwyslais ar sicrhau bod ymarfer corff yn rhan arferol o bob diwrnod ysgol.”
Yn ogystal â’r manteision amlwg i iechyd a ffitrwydd a ddaw yn sgil gwneud ymarfer corff bob dydd, mae’r ymchwil ddiweddar hefyd wedi dangos bod cymryd rhan yng nghynllun The Daily Mile yn gwella ymddygiad disgyblion yn y dosbarth, a’u cyrhaeddiad. Mae athrawon yn dweud bod plant yn canolbwyntio’n well, a’u bod yn dychwelyd o’u The Daily Mile yn effro ac yn barod i ddysgu, tra bo’r rhieni’n dweud bod eu plant yn bwyta ac yn cysgu’n well.
Wrth roi ei sylwadau ar y newyddion, dywedodd sylfaenydd cynllun The Daily Mile, Elaine Wyllie: “Mae’n bleser gen i gefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi fynd ati i annog holl ysgolion cynradd Cymru i fanteisio ar gynllun The Daily Mile. Mae’r Deyrnas Unedig yn wynebu ei hargyfwng mwyaf hyd yn hyn ym maes iechyd y cyhoedd, gydag un o bob pump o blant oedran derbyn, ac yn fwy brawychus byth, un o bob tri o blant 10-11 oed, naill ai dros bwysau neu’n ordew. Ein cyfrifoldeb ni, fel oedolion, yw cyflwyno’r newidiadau a fydd yn gwella nid yn unig ffitrwydd corfforol ein plant, ond hefyd eu hiechyd a’u llesiant cyffredinol yn y blynyddoedd i ddod.”
Dylai ysgolion sydd â diddordeb fynd i www.thedailymile.cymru i gael rhagor o wybodaeth am y fenter, ac i lawrlwytho amrywiaeth o adnoddau dwyieithog.
Cysylltiadau cyfryngau
Ursula Heath (The Daily Mile) 07979 507612
Andrew McLachlan (Media Zoo) 020 7384 6980 or 07931 377162
Ryan Thompson (Media Zoo) 020 7384 6980 or 07585 224831