Nodyn i Rieni a Gofalwyr

Mae nod The Daily Mile yn syml – helpu pob plentyn i wella eu hiechyd a lles corfforol, emosiynol a meddyliol drwy wneud gweithgaredd corfforol am oleua 15 munud bob dydd.

Mwy i archwilio

Mae’r plant yn cerdded, loncian neu redeg gyda’i gilydd yn niogelwch eu maes chwarae. Mae pawb yn mwynhau cymryd rhan – nid addysg gorfforol mohono ac nid yw’n gystadleuol – wrth greu perthnasau, codi hyder a gwytnwch:

1  Ffitrwydd- plant yn dod yn fwy ymwybodol o sut i fyw’n iach

2  Awyr iach- mae plant yn ffynnu ar olygfeydd, synau a thymhorau

3  Ffrindiau- plant yn defnyddio iaith gyfeillgar i gefnogi ei gilydd, gan wella eu sgiliau cymdeithasol a’u sgiliau arwain

4  Hwyl – mae plant yn mwynhau cymryd rhan – dyma sy’n sicrhau llwyddiant The Daily Mile.

5  Ffocws- ymarfer corff bob dydd yn helpu eich plentyn i ganolbwyntio yn y dosbarth ac wedi ei brofi i helpu cyrhaeddiad

Os yw eich plentyn yn gwneud The Daily Mile yn yr ysgol, gallwch gefnogi hyn adref, drwy roi annog eu hyder i redeg, a symud gyda nhw yn yr awyr agored ar ôl amser ysgol. Mae rhieni yn dweud bod The Daily Mile yn helpu eu plant i fwyta a chysgu’n well, a’u bod yn aml yn dod yn llysgennad iechyd i’r teulu cyfan!

Os hoffech i ysgol eich plant ystyried gwneud The Daily Mile, rhowch wybod iddyn nhw! Gallwn ni ddarparu’r help a’r gefnogaeth i roi ysgolion ar ben ffordd ac rydym wrth ein boddau yn dod â mwy o ysgolion i gymuned The Daily Mile!