Gwerthoedd Craidd

Darganfyddwch 10 top tip Elaine i sicrhau llwyddiant The Daily Mile! 

Mwy i archwilio

10 egwyddor greiddiol ar gyfer ysgolion

Mae The Daily Mile yn hawdd eu weithredu ac yn hwyl.  Yn fy mhrofiad i mae hyd yn oed y plant sy’n amharod i gymryd rhan mewn gwersi Addysg Gorfforol yn mwynhau cymryd rhan yn The Daily Mile.  Dylai plant ag anawsterau mudoloedd gael eu cefnogi yn llawn i gymryd rhan hyfyd.  Dyma fy 10 pwynt allweddol i ddechrau eich The Daily Mile.  Os lynwch chi gyda’r egwyddorion yma, mi fyddwch yn llwyddiannus!

1  HWYL

Mae gan blant y rhyddid i redeg yn yr awyr iach gyda’u ffrindiau.  Mi ddylent gael gwybod nad cystadleuaeth ydyw – bydd nifer yn cerdded a rhedeg yn enwedig ar y cychwyn.

2 100%

Mae’n hollol gynhwysol – mae’r plant i gyd allan gyda’i gilydd ac mae plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn manteisio’n fawr.

3 TYWYDD

Edrychwch ar y tywydd fel mantais nid fel rhwystr – mae plant yn ymateb i’r tymhorau.  Gwisgwch siaced os yn oer a llaith; tynnwch eich siwmper os yw’n gynnes.

4 TRAC

Trac neu lwybr â lleiafrif o 5-10 lap sy’n gweithio orau.  Maen iawn cael mwy o lapiau yn ddibynnol ar eich lleoliad.

5 CYFLYM

Mae’n digwydd o fewn 15 munud yn cynnwys gadael y dosbarth a chyrraedd yn ôl.  Ceisiwch fynd allan bob dydd – byddyn haws i’r plant a byddant yn cael y manteision i gyd.

6 RISG

Genwch asesiad risg o’r llwybr neu faes chwarae – mae yna asesiad risg enghreifftiol yma.

7 EWCH AMDANI

Does dim angen cynhesu fyny – allan ac i ffwrdd â chi.

8 DILLAD

Does dim angen dillad arbennig.  Mae’r plant yn mynd allan yn eu dillad ysgol.

9 PERCHNOGI

Sicrhewch fod y plant yn berchen ar eu The Daily Mile.  Maent yn medru dewis rhedeg, loncian, cerdded – neu gymysgu’r tri – ond mi ddylent gael eu hannog i redeg ychydig.

10 SYML

Gwrthodwch y demtasiwn o wneud pethau yn rhy gymhleth, y symlrwydd sy’n sicrhau llwyddiant a chynaladwyedd.